Skip to main content

Mae ein corau Sing with Us yno i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser. Mae’n nhw’n cynnig cymorth, cyfeillgarwch a hwyl, ac mae ein gwaith ymchwil arloesol wedi dangos bod canu’n dda i chi hefyd.

Mae’n ffordd hyfryd o godi eich hwyliau, lleihau gorbryder a bod yn rhan o rywbeth arbennig. A gorau oll, mae pawb yn gallu canu – hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu! Mae gennym ni gorau ar draws y wlad ac mae pobl newydd yn ymuno â ni trwy’r adeg.

Sut beth yw ein corau Sing with Us

Mae ein corau’n hwyliog a dyrchafol, ac maen nhw i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser mewn unrhyw ffordd. Does dim angen i chi all darllen cerddoriaeth, neu fod yn ganwr arbennig. Byddwch yn barod i ymuno a chymryd rhan.

Rydyn ni’n canu amrywiaeth o ganeuon cyfoes o’r 50 mlynedd diwethaf. Byddwch chi’n ein clywed yn canu clasuron modern gan bobl fel Queen, Elvis, Rhianna, The Beach Boys, Take That neu Adele.

Gallwch chi ymuno â’n corau Sing with Us yn rhad ac am ddim, ond maen nhw’n dibynnu’n llwyr ar roddion. Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n gallu parhau â’r gwasanaeth pwysig hwn, felly rydyn ni’n gwerthfawrogi unrhyw roddion neu godi arian y gall ein haelodau helpu gyda nhw. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n Cwestiynau Cyffredin.

Mae ein corau wedi bod yn digwydd ar-lein oherwydd y pandemig ond rydym yn gyffrous i gyhoeddi eu bod yn trosglwyddo yn ôl i ymarferion personol ar hyn o bryd. Rydym yn dal i groesawu aelodau newydd yn ystod yr amser hwn felly cysylltwch â ni trwy lenwi'r ffurflen isod os hoffech chi gymryd rhan.

Darganfyddwch eich côr lleol

Côr

Diwrnod

Lleoliad

Y Fenni

Nosweithiau Mawrth

St Mary’s Priory centre, 5 Monk St, Y Fenni, NP7 5ND

Aberystwyth

Nosweithiau Lun

St Paul Methodist Centre, Aberystwyth, SY23 2NN

Bangor

Nosweithiau Iau

Penrhyn Hall, Tan-Y-Fynwent, Bangor, LL57 1DT

Bari

Nosweithiau Mawrth

Cadoxton Methodist Church Hall, Church Road, Y Barri, CF63 1JX

Pen-y-Bont-Ar-Ogwr

Nosweithiau Lun

Hope Baptist Church, Station Hill, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1EA

Gogledd Caerdydd

Nosweithiau Mercher

All Saints' Church, Heol y Felin, Rhiwbina, Caerdydd, CF14 6NW

De Caerdydd

Nosweithiau Lun

Grange Pavilion, Grange Gardens, Caerdydd, CF11 7LJ

Caerfyrddin

Nosweithiau Iau

Large Basement Room, Llyfrgell Caerfyrddin, 9 St Peter's St, Caerfyrddin, SA31 1LN

Cwmbran

Nosweithiau Lun

Cwmbran Working Men’s Band Club, Oldbury Road, Cwmbran, NP44 3JU

Llandudno

Nosweithiau Mawrth

Rhos on Sea United Reform Church, Colwyn Avenue, Rhos on Sea, LL28 4RA

Llanelli

Nosweithiau Mawrth

Neuadd Athenaeum, Llyfrgell Llanelli, Vaughan Street, Llanelli, SA15 3AS

Llanidloes

Nosweithiau Mawrth

Trinity Church, Short Bridge Street, Llanidloes, SY18 6AD

Merthyr Tydfil

Nosweithiau Mercher

Hope and Market Square Church, Three Salmon Stree, Merthyr Tydfil, CF47 8DS

Pontypridd

Nosweithiau Iau

Yma, Stryd Taff, Pontypridd, CF37 4TS

Abertawe

Nosweithiau Mawrth

LifePoint Centre, Ffynone Road, Abertawe, SA1 6BT

Wrecsam

Nosweithiau Lun

St. Margaret's Church, Chester Road, Wrecsam, LL11 2SH

Mae croeso mawr i aelodau newydd!

Eisiau’r côr ar gyfer digwyddiad?

Gwerthusiadau

Rydyn ni’n gwerthuso ein gwasanaethau’n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cwrdd ag anghenion y bobl sy’n eu defnyddio, i nodi ffyrdd o’u gwella, ac i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y gwerth gorau am arian. Fe wnaethon ni werthuso ein corau Sing with Us yn ddiweddar. O’r 1,491 o aelodau y gwnaethon ni eu holi, roedd 94% wedi gwneud ffrindiau trwy’r côr ac roedd 87% yn teimlo bod y côr yn rhan fawr o’u bywydau. Gallwch chi lwytho’r adroddiad i lawr isod.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010