Skip to main content

Mae triniaethau canser fel cemotherapi yn gallu bod yn un o’r agweddau mwyaf dychrynllyd ar ddiagnosis o ganser. Yn ogystal â’r problemau ymarferol fel teithio a pharcio, mae poeni am y sgil effeithiau yn gallu ei wneud yn broses bryderus a dychrynllyd.

Cemotherapi a thriniaethau eraill

Mae ein pedair Uned Cymorth Symudol yn dod i’r gymuned fel nad oes angen i chi ddelio â straen a chostau teithio milltiroedd i’r ysbyty. Rydyn ni’n gweithio gyda byrddau iechyd lleol, ac yn gweithio o feysydd parcio lleol, archfarchnadoedd a lleoliadau cymunedol. Gallwch chi barcio yn ymyl, am ddim ac oherwydd ein bod ni’n gweld llai o gleifion does dim oedi o ran apwyntiadau.

Mae ein Hunedau yn dod i amrywiaeth o gymunedau ledled De Cymru a rhai lleoliadau yn Lloegr, ond bydd angen i chi gael atgyfeiriad gofal iechyd proffesiynol os yw eich math o driniaeth yn gydnaws.

Mae’n olau, yn gynnes ac yn gyfeillgar, gyda’r un safonau clinigol y byddech chi’n eu disgwyl mewn ysbyty.

Gofal lymffoedema

Mae ein hail Uned Cymorth Symudol yn dod â gofal lymffoedema i’r gymuned. Dydy lymffoedema ddim yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn gwybod amdano. Mae’n gyflwr sy’n gallu bod yn sgil effaith o driniaeth canser, yn enwedig canser y fron, sy’n golygu nad yw system ddraenio’r corff yn gweithio’n iawn. Mae’n gallu arwain at chwyddo difrifol y breichiau, coesau, traed a rhannau eraill o’r corff sy’n gallu achosi problemau symud a phoen ofnadwy. Mae angen rheolaeth gydol oes.

Mae tua 10,000 yn byw gyda lymffoedema yng Nghymru ac mae’r niferoedd yn cynyddu. Mae’n effeithio ar bobl yn gorfforol ac yn emosiynol, ac mae’n gallu effeithio ar bob rhan o’u bywydau bob dydd. Mae’n gallu bod yn bryderus iawn, gan effeithio ar hyder rhywun a’i gwneud yn anodd symud o gwmpas. Dyna pam bod ein Huned Cymorth Symudol yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Cymerwch olwg ar un o’n Hunedau Cymorth Symudol

Os ydych chi’n dod am driniaeth ar un o’n Hunedau Cymorth Symudol, neu eisiau gweld sut olwg sydd arni, ewch ar ein taith 360°.

Os ydych chi ar gyfrifiadur defnyddiwch Google Chrome i wylio’r fideo, ac yna defnyddiwch eich llygoden i edrych o’ch cwmpas. Yn anffodus, ni fydd yn gweithio ar Microsoft Explorer na Firefox.

Os ydych chi’n defnyddio ffôn neu dabled, efallai y bydd angen i chi agor y fideo mewn Youtube i ddefnyddio’r nodwedd 360°. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei agor yn eich ap Youtube os ydych chi eisiau defnyddio nodwedd gwyro eich ffôn i edrych o’ch cwmpas.

Gwerthusiadau

Rydyn ni’n gwerthuso'n gwasanaethau’n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cwrdd ag anghenion y bobl sy’n eu defnyddio, i nodi ffyrdd o’u gwella, ac i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y gwerth gorau am arian. Fe wnaethon ni werthuso ein hail Uned Cymorth Symudol yn ddiweddar a chanfod bod y gwasanaeth wedi darparu 195 o apwyntiadau bob mis ar gyfartaledd, gan helpu cleifion i gael triniaeth yn agosach at adref, gyda 84% yn teithio llai na 10 milltir! Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad isod.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010