Amcan Gofal Canser Tenovus yw sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch i gymaint o ddefnyddwyr amrywiol â phosib. Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion ar sut yr ydym yn bwriadu cyflawni'r amcan hwn yn ogystal â rhai awgrymiadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi wrth bori'r wefan.
Defnyddio eich porwr i reoli maint y testun
Er enghraifft, os ydych yn defnyddio Internet Explorer ar gyfer Windows; o’r ddewislen ‘View’, dewiswch ‘Zoom’. Yna, gallwch chi ddewis i chwyddo i mewn neu osod lefel y Zoom i % sy’n gyfforddus i chi ei darllen.
Defnyddio eich porwr i wella hygyrchedd yn unol â’ch anghenion
Er enghraifft, os ydych yn defnyddio Internet Explorer ar gyfer Windows; o’r ddewislen ‘Tools’, dewiswch ‘Internet Options’.
Trwy glicio’r botwm ‘Accessibility’, gallwch ddewis anwybyddu elfennau o ddyluniad y wefan fel lliwiau, maint ffont neu arddulliau ffont, neu anwybyddu'r tri. Yna drwy glicio’r botwm ‘Colour’, gallwch ddewis lliwiau ar gyfer y testun a’r cefndir. Gallwch hefyd ddewis y botwm ‘Font’ i osod arddull ffont sy’n addas ar gyfer eich anghenion.
Eglurder sgrîn
Dyluniwyd y wefan hon i arddangos eglurder sgrîn o 1024 x 768 picsel neu'n uwch. Mae'r wefan yn dal i fod yn hygyrch gydag eglurder sgrîn is. Efallai yr hoffech chi newid eich dewisiadau arddangos i gynorthwyo eich profiad pori. Er enghraifft, os ydych yn defnyddio Windows XP, ewch i Start> Control Panel> Settings and Themes> Change the Screen Resolution. Yna symudwch y llithrydd i ddewis 800 x 600 neu uwch.
Problemau gyda defnyddio’r wefan
Os ydych yn cael problemau hygyrchedd gyda’r wefan, neu bod gennych sylwadau neu adborth ar sut gallwn ni wella eich profiad ar-lein, ebostiwch ni: info@tenovuscancercare.org.uk.
Cysylltu â ni
I gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd ein gwefan, cysylltwch â ni info@tenovuscancercare.org.uk neu ffonio 029 2076 8850.