Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r haul – efallai oherwydd nad ydyn ni’n gweld digon ohono. Ond faint ohonom ni sy’n cadw’n ddiogel yn yr haul?
Sut i gadw'n ddiogel yn yr haul
Mae gormod o haul yn ddrwg i ni. Does dim ffasiwn beth â lliw haul ‘iach’! Mwynhewch yr haf a chadwch yn ddiogel yn yr haul drwy ddilyn y camau canlynol:
- Gwisgwch grys-t. Gorchuddiwch eich ysgwyddau, maen nhw’n gallu llosgi’n hawdd
- Defnyddiwch ddigon o eli haul. Defnyddiwch SPF 30 neu uwch, sydd â llawer o sêr, ac sydd yn rhwystro dŵr os yn bosib
- Gwisgwch het ag ymyl llydan i gysgodi'ch wyneb, gwddf a chlustiau
- Gwisgwch sbectol haul i ddiogelu'ch llygaid rhag pelydrau UV
- Ewch i’r cysgod pan fydd yr haul ar ei gryfaf rhwng 11-3.
Adnabod yr arwyddion a’r symptomau
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y croen ac yn gwybod sut i sylwi bod rhywbeth ddim yn iawn. Ewch i’n canllaw gwirio mannau geni yma.
Ffeithiau am eli haul
Er bod llawer ohonom ni’n gwybod sut i gadw'n ddiogel yn yr haul drwy ddefnyddio eli haul, nad ydym o hyd yn ei gael yn iawn. Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod 80% ohonom ni yn defnyddio eli haul yn anghywir. Dyma rai ffeithiau, awgrymiadau a thriciau ynglŷn ag eli haul er mwyn i chi fod yn ddiogel yn yr haul.
Gwelyau heulfelynu
Rydyn ni’n gwybod y gallech chi deimlo’n well pan fydd gennych chi liw haul, ond mynd yn frown yw ffordd eich croen o ddweud wrthych chi ei fod yn cael ei ddifrodi. Pan fyddwch yn defnyddio gwely heulfelynu, mae eich croen yn mynd yn frown i amddiffyn ei hun rhag y pelydrau uwchfioled (UV) niweidiol. Ymbelydredd yw hyn – ac mae yr un mor beryglus â bod yn yr haul heb ddiogelwch. Mae gwelyau heulfelynu, lampau haul a bythau lliw haul i gyd yn rhyddhau pelydrau UV peryglus. Mae rhagor o wybodaeth am welyau heulfelynu, yma.