Skip to main content

Mae diagnosis canser yn gallu troi bywyd ben i waered. Mae’n siŵr y bydd gennych chi gwestiynau a phryderon, ac y byddwch chi eisiau siarad â rhywun. A dyna sut gallwn ni helpu.

Llinell Gymorth Am Ddim (0808 808 1010)

Os ydych chi neu un o'ch anwyliaid wedi'ch effeithio gan ganser, mae ein Llinell Gymorth am ddim yna i chi. Mae'r gwasnaeth yna i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser ac mae ein nyrsys profiadol yn gallu cynnig cyngor ar ddiagnosis, triniaeth, sgil effeithiau ac unrhyw beth arall sy’n eich poeni. Mae ein tîm yma 365 diwrnod y flwyddyn i ateb pob math o gwestiynau am bob math o ganser, neu bethau nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â’ch teulu neu eich anwyliaid amdanyn nhw.

P’un ai ydych chi’n derbyn triniaeth, yn gwella ar ôl llawdriniaeth neu wedi colli rhywun rydych chi’n ei garu, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ffonio.

Ein Llinell Gymorth yw eich drws i'n holl wasanaethau cymorth, felly i gael gwybod sut gallwn ni eich helpu chi, dim ond ffonio sydd angen i chi wneud. 

Mae ein Llinell Gymorth ar agor 9yb – 5yp dydd Llun i ddydd Gwener, a 10yb – 1yp ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Ffoniwch 0808 808 1010 am ddim.

Ein Gwasanaeth Galw’n Ôl

Os ydych chi newydd gael diagnosis o ganser, mae ein gwasanaeth ffonio’n ôl am ddim yn gallu eich cefnogi wrth i chi gael eich triniaeth. Byddwch chi’n cael cyfres o alwadau rheolaidd gan un o’n nyrsys ymrwymedig sydd yn gallu ateb cwestiynau a chynnig cymorth ynglŷn ag unrhyw beth sydd i’w wneud â'ch diagnosis neu driniaeth.

Gallwch chi gyfeirio'ch hunain at y gwasanaeth drwy ffonio'n ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Ysgrifennwch bethau i lawr

Os oes well gennych chi ysgrifennu pethau i lawr, beth am ddefnyddio'n gwasanaeth ‘Gofyn i’r Nyrs’. Fel yma, gallwch chi ysgrifennu'ch cwestiynau neu'ch pryderon, a gall ein nyrsys ymateb mewn e-bost neu drefnu i ffonio ar adeg sy’n gyfleus.

Mae'r gwasanaeth yma ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010