Mae ein cyrff wedi’u hadeiladu o filiynau o gelloedd sydd fel arfer y derbyn signalau gan enynnau sy’n cynnwys DNA. Mae hyn yn rheoli sut maen nhw’n tyfu ac yn rhannu. Os bydd cell yn cael ei niweidio neu os yw’n hen, bydd yn derbyn signal i stopio gweithio a bydd yn marw.
Weithiau mae newid yn digwydd mewn genyn pan fydd y celloedd yn rhannu; mwtaniad yw’r enw am hyn ac mae’n gallu digwydd yn ddamweiniol. Mae rhai mwtaniadau'n golygu nad yw’r gell bellach yn deall cyfarwyddiadau, ac efallai y bydd yn parhau i wneud mwy a mwy o gelloedd annormal.
Mae’r celloedd yn dechrau tyfu ac atgenhedlu mewn ffordd na ellir ei reoli. Yna, fe all y celloedd hyn ddod at ei gilydd i ffurfio lwmp a elwir yn diwmor. Mae’r celloedd hyn yn gallu ymosod ar feinweoedd iach, gan gynnwys organau, a’u dinistrio.
Weithiau mae canser yn dechrau mewn un rhan o’r corff cyn lledaenu i rannau eraill. Gelwir hyn yn fetastasis.
Mathau o ganser
Mae’r rhagolwg mwyaf cywir hyd yma gan Cancer Research UK yn datgan y bydd 1 mewn 2 ohonom yn datblygu canser yn ystod ein hoes. Mae dros 200 math gwahanol o ganser. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu disgrifio yn ôl y rhan o’r corff maen nhw’n cychwyn, er enghraifft canser y fron neu’r ysgyfaint. Mae canser hefyd yn gallu cael eu rhannu i grwpiau yn ôl y math o gell y dechreuodd y canser ohono.
Carsinomas
Mae carsinomâu yn ganserau sy’n dechrau yn y celloedd epithelaidd sy’n gorchuddio tu allan ein cyrff, fel croen, ac sydd hefyd yn leinio neu’n gorchuddio ein horganau mewnol. Y carsinomâu mwyaf cyffredin rydyn ni’n clywed amdanyn nhw yw;
- Ysgyfaint
- Y colon a'r rhefr (perfedd)
- Prostad
- Bron
- Melanoma (croen)
Sarcomas
Mae canserau sy’n cychwyn yn y meinwe cysylltiol yn cael eu galw’n sarcomas. Gellir eu rhannu’n ddau brif fath; asgwrn a meinwe meddal. Maen nhw’n brin, dim ond 1% o ganserau fydd yn cael diagnosis bob blwyddyn fydd yn sarcomas.
Lewcemia
Mae canserau sy’n cychwyn yn y gwaed neu ym mêr esgyrn lle mae celloedd gwaed yn cael eu cynhyrchu yn cael eu galw’n lewcemia. Maen nhw’n fath anghyffredin arall o ganser gan ffurfio dim ond 3% o bob achos o ganser, ond rhaid i ni fod ar ein gwyliadwriaeth gan mai dyma’r canserau mwyaf cyffredin ymysg plant.
Mathau eraill o ganser
- Mae canserau sy’n cychwyn mewn celloedd plasma yn cael eu galw’n fyeloma.
- Mae canserau sy’n cychwyn yn y system lymffatig, sef system ddraenio eich corff, yn cael eu galw’n lymffoma.
- Mae canserau yn gallu datblygu o fathau eraill o gelloedd gan gynnwys, tiwmorau ar yr ymennydd, tiwmorau newroendocrinaidd a chanserau celloedd germ.
Gwahanol gyfnodau canser
Pan fydd rhywun yn cael diagnosis canser, bydd yn aml yn cael ei ddosbarthu yn ôl pa gyfnod y mae’r clefyd ynddo. Bydd doctoriaid yn cynnal profion i weld pa mor fawr yw’r canser a p’un ai ydy wedi lledaenu i’r meinweoedd cyfagos. Mae cyfnod y canser yn disgrifio maint y tiwmor a pha mor bell y mae wedi lledaenu o le y dechreuodd.
Y cynharaf y mae canser yn cael diagnosis, fel arfer yr isaf yw’r cyfnod, ac y mae’r canlyniad yn well i’r unigolyn. Fel unrhyw glefyd mae’n bwysig ei ganfod yn gynnar. Dyna pam ei bod yn bwysig eich bod chi’n gweld eich meddyg cyn gynted ag yr ydych chi’n poeni am arwydd neu symptom o ganser.
Bydd cyfnodoli a graddio’r canser yn gadael i’r meddygon benderfynu ar faint y canser, p’un ai yw wedi lledaenu a’r opsiynau gorau o ran triniaeth. Fe rheol syml, mae cyfnod isel (fel cyfnod 0, 1 neu 2) yn nodi bod y tiwmor yn llai ac nad yw wedi lledaenu. Mae rhif uwch (fel cyfnod 3 neu 4) yn golygu bod y canser yn fwy ac efallai ei fod wedi lledaenu i rannau eraill.
Mae’r un peth wrth raddio’r canser – yn gyffredinol, mae gradd isel yn dynodi bod y canser yn tyfu’n araf, ac mae gradd uwch yn dynodi canser sy’n tyfu’n sydyn.
Bydd cyfnod a gradd eich canser yn helpu’r meddyg i benderfynu ar y driniaeth orau i chi.