Ym 1943 sefydlwyd Gofal Canser Tenovus gan 10 o ddynion busnes lleol yn cefnogi ffrind mewn angen. Dros y blynyddoedd, mae Gofal Canser Tenovus wedi tyfu a newid, ond mae rhai pethau wedi aros yn gyson.
Mae ein cymuned yn parhau i fod yn bwysig i ni yn ogystal â bod yno i gleifion canser pan a lle y mae ein hangen fwyaf arnyn nhw. Mae dod o hyd i wellhad drwy ariannu ymchwil hanfodol yn bwysig i ni, yn ogystal ag atal canser yn y lle cyntaf. Mae gwneud hyn lle mae fwyaf ei angen yn bwysig i ni; yng nghalon y gymuned. Dyma sydd wrth galon Gofal Canser Tenovus heddiw.
Sut dechreuodd Gofal Canser Tenovus
Dechreuodd y cyfan gydag ymdeimlad o gymuned, cyfraniad hael, ac ewyllys da.
Ochr yn ochr ag ymchwil i achub bywydau a lansio gwasanaethau cymorth arloesol i gleifion canser a’u hanwyliaid, nid yw Gofal Canser Tenovus erioed wedi colli’r gwerthoedd a sefydlwyd gan ein sylfaenwyr ym 1943.
Dechreuodd y cyfan gyda radio swnllyd
Un diwrnod ym mis Awst 1943, roedd contractwr cludo nwyddau o Gaerdydd, Eddie Price, yn dadlwytho peiriannau pan syrthiodd un o’r llwythau trwm arno. Cafodd ei anafu’n ddrwg a'i ruthro i Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Cyn y ddamwain, roedd Eddie wedi helpu dyn busnes lleol, David Edwards, pan redodd allan o betrol. Roedd David eisiau diolch i’r dieithryn am y caredigrwydd yr oedd wedi’i ddangos iddo, felly aeth i chwilio am Eddie, ond clywodd ei fod wedi cael ei anafu’n ddifrifol ac yn yr ysbyty. Yn ôl y sôn, dywedodd David wrth ei wraig:
“Fe wnaeth y dyn hwn dro da i mi, nawr rydw i’n mynd i dalu’r gymwynas yn ôl.”
Roedd David Edwards yn ddyn busnes dylanwadol a llwyddodd i gael pump o’r arbenigwyr meddygol gorau i drin Eddie. Hyd yn oed gyda’r tîm gwych hwn o feddygon yn gofalu amdano, cymerodd Eddie dri mis i wella.
Ymwelodd ffrindiau Eddie Price ag ef yn yr ysbyty’n rheolaidd, a daeth un ohonyn nhw â radio symudol yno i helpu i ddiddanu’r claf. Wrth gwrs yn ôl steil nyrsio'r 40au, fe wnaeth chwaer y ward ei wahardd am fod yn rhy swnllyd!
Yn yr ysbyty, dechreuodd David (DR) Edwards a ffrindiau eraill Eddie gyfarfod o gwmpas ei wely, a phan oedd Eddie wedi gwella, roedd y grŵp eisiau dangos eu gwerthfawrogiad o’r gofal a roddwyd iddo. Dywedodd DR: