Mae diagnosis o ganser i chi neu rywun rydych chi’n ei garu yn gallu arwain at gostau annisgwyl. Os nad ydych chi’n gallu gweithio neu os oes angen i chi wneud newidiadau i’ch ffordd o fyw, gall fod yn gostus. Os nad ydych chi’n gallu gweithio, gall biliau gynyddu’n gyflym.
Yn ffodus, mae yno fudd-daliadau a grantiau y gallwch chi fod yn gymwys i’w cael ac a allai helpu gyda pheth o bwysau ariannol canser.
Sut allwn ni helpu gyda chymorth ariannol
Mae ein tîm o Gynghorwyr Budd-daliadau arbenigol yn gallu siarad â chi am ba gymorth ariannol sydd ar gael a’ch arwain chi drwy’r system fudd-daliadau gymhleth.
Gallwn ni edrych ar eich amgylchiadau fel eich sefyllfa ariannol, pwy rydych chi’n byw gyda a pha anghenion iechyd sydd gennych chi, a rhoi cyngor manwl i chi am unrhyw fudd-daliadau lles, grantiau, neu gymorth arall y dylech chi fod yn ei gael.
Maen nhw hefyd yn gallu helpu gyda cheisiadau, a rhoi cyngor am benderfyniadau budd-daliadau heriol neu helpu i brosesu hawliadau os oes angen.
Budd-daliadau a hawliau i ofalwyr a chleifion canser
Mae yna amrywiaeth o fudd-daliadau a hawliadau y gallech chi fod yn gymwys ar eu cyfer os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei garu ganser.
- Helpu i ddisodli incwm sydd wedi’i golli o waith, drwy daliadau fel tâl salwch a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a/neu help i ychwanegu at incwm isel drwy daliadau fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
- Helpu i wneud ceisiadau am fudd-daliadau sy’n adlewyrchu cost ychwanegol byw gyda salwch tymor hir neu anabledd, fel Lwfans Gweini neu Daliad Annibyniaeth Bersonol.
- Help i dalu eich rhent neu dreth cyngor
- Helpu i wneud ceisiadau am fudd-daliadau os ydych chi’n gofalu am rywun, fel Lwfans Gofalwr.
Grantiau a thaliadau untro i gleifion canser
I helpu gyda chostau byw gyda chanser, mae amrywiaeth o grantiau a thaliadau untro ar gael gan y llywodraeth a sefydliadau eraill. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:
- Grantiau Macmillan sy’n daliad untro i’r rheini sy’n wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i ddiagnosis canser. Does dim angen ei ad-dalu
- Grantiau Penodol i Swydd - yn dibynnu ar eich swydd bresennol neu flaenorol efallai fod yna gronfeydd penodol y gallwch chi ymgeisio ar eu cyfer.
- Yn dibynnu ar eich amgylchiadau a lle rydych chi'n byw, mae yna grantiau untro eraill y gallech chi fod yn gymwys ar eu cyfer. Byddai’r rhain yn cyfrannu at gostau pethau fel trafnidiaeth, biliau gwres, offer, dillad neu addasu eich cartref ar gyfer eich anghenion.
Cysylltwch â’n Tîm Cyngor Buddion
Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu eich cynghori ynglŷn â sut y gallwn ni helpu gyda budd-daliadau, grantiau a chymorth ariannol. Ffoniwch ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.