Rydyn ni’n dibynnu ar roddion i ddarparu gofal hanfodol a chymorth i gleifion canser a’u hanwyliaid, pryd a lle y maen nhw fwyaf ein hangen.
Mae rhoi rhodd i Gofal Canser Tenovus er cof am anwyliaid yn ffordd arbennig o goffáu eu bywydau a rhoi gobaith i eraill sydd â chanser.
Bydd rhoi’r arian rydych chi’n ei godi drwy eich nawdd yn gwneud gwahaniaeth ac yn ein helpu ni i gefnogi mwy o bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw.
Beth bynnag fo’ch rhodd, gall hyd yn oed 1%, helpu i ariannu ymchwil canser yfory, a’n helpu ni i ddod ychydig yn nes at fyd heb ganser.
Gwnewch wahaniaeth! Chwaraewch y loteri ‘make a smile’ er mwyn cael cyfle i ennill gwobrau ariannol wythnosol a chefnogi cleifion canser a’u hanwyliaid!
Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn ffordd effeithlon o gefnogi sy’n golygu y gallwch roi cyfraniadau rheolaidd i ni yn syth o’ch cyflog.
Gwnewch i’ch rhodd fynd ymhellach fyth gyda Chymorth Rhodd. Os ydych chi'n drethdalwr yn y DU, gallwch gynyddu eich rhodd 25% heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Rhowch eich dillad, eich llyfrau, eich CDs neu eich dodrefn nad ydych eu heisiau i siopau elusen Gofal Canser Tenovus. Gallwch wneud gwahaniaeth dim ond drwy gael gwared â phethau nad ydych eu heisiau mwyach.
Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010