Yn ogystal â helpu gydag arian a budd-daliadau, mae ein Tîm Cyngor yn gallu eich helpu gyda materion ymarferol fel trafnidiaeth, yswiriant a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Trafnidiaeth a pharcio
Costau trafnidiaeth
Mae teithio i ac o’r ysbyty yn gallu bod yn ddrud. Bydd ein Cynghorwyr yn gallu rhoi gwybod i chi os ydych chi'n gymwys i dderbyn unrhyw fudd-daliadau neu grantiau, i helpu gyda chostau teithio i gael triniaeth ganser.
Mae cynllun Cymorth gyda Chostau Iechyd y GIG yn golygu y gallwch chi gael ad-daliad ar gyfer costau teithio i apwyntiadau ysbyty. Gallwch ddod o hyd i mwy o wybodaeth am gostau trafnidiaeth yng Nghymru yma.
Bathodynnau Glas i gleifion canser
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei garu ganser, efallai y byddwch chi’n cymwys i wneud cais am Fathodyn y Cynllun Parcio i’r Anabl (Bathodyn Glas). Mae cynllun y Bathodyn Glas yn eich caniatau i barcio’n agosach gan ei gwneud yn haws i chi gyrraedd lle rydych chi’n mynd. Mae cymhwysedd yn dibynnu ar p’un ai ydych chi’n derbyn budd-dâl symudedd perthnasol neu os yw eich anghenion symudedd yn cyfateb i’r meini prawf. Mae yna reolau arbennig ar gyfer pobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau.
Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac mae gan bob ardal ei phroses ymgeisio ei hun. Efallai y bydd angen tystiolaeth feddygol gefnogol, prawf eich bod wedi derbyn budd-dal symudedd ac ID. Gallwn ni eich arwain i wneud cais am, neu adnewyddu, bathodyn parcio, neu eich helpu i wneud cais am un.
Cymorth gyda Chostau’r GIG
Bydd ein Cynghorwyr yn gallu rhoi gwybod i chi os gallwch chi gael mynediad at y cynllun hwn i helpu gyda chostau’r GIG.
Mae cynllun Cymorth gyda Chostau Iechyd y GIG yn golygu y gallwch chi gael help gyda chostau triniaeth i'r dannedd, tâl presgripsiwn, costau optegydd a wigiau.
Am fwy o wybodaeth am cymorth gyda chostau iechyd yng Nghymru, cliciwch yma ac i Loegr, cliciwch yma.
Cartref, offer a chynnyrch
Addasu eich cartref ac offer arbenigol
Os ydych chi’n byw gyda chanser neu ei sgil effeithiau, efallai y bydd angen i chi wneud addasiadau i’ch cartref neu brynu offer arbennig i helpu gyda’ch bywyd bob dydd. Bydd ein Cynghorwyr yn gallu eich cyfeirio i gael mynediad at wasanaethau cymorth neu asesiadau anghenion, ynghyd â’ch cyfeirio at unrhyw grantiau neu fudd-daliadau sydd ar gael i helpu gyda’r costau ychwanegol.
Yswiriant teithio i gleifion canser
Mae byw gyda chanser yn gallu effeithio ar eich yswiriant teithio, ond mae’n bwysig eich bod chi’n datgelu hyn wrth archebu. Os na fyddwch chi’n ei ddatgelu, mae perygl na fydd eich cwmni yswiriant yn cytuno i dalu unrhyw gostau, os oes angen gofal iechyd arnoch chi pan rydych chi ar eich gwyliau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Gwasanaethau defnyddiol i gleifion canser
Gofal blaenoriaeth gan Western Power Distribution.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Canolbarth Lloegr neu Dde-orllewin Lloegr, Western Power Distribution sy’n gyfrifol am gael trydan i’ch cartref, pwy bynnag yw eich cyflenwr. Weithiau, gall toriadau trydan ddigwydd am resymau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth ac fe allan nhw fod yn bryderus iawn os ydych chi’n dibynnu ar drydan ar gyfer offer meddygol neu os ydych chi’n hen, yn sâl iawn neu’n anabl.Trwy ymuno â’u Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth byddwch chi’n cael rhif uniongyrchol i’w ffonio os oes toriad trydan, fel eich bod chi’n gallu cael gafael arnyn nhw’n syth, a byddwch chi’n cael eich diweddaru cymaint â phosib. Byddan nhw hefyd yn gadael i chi wybod am unrhyw doriadau sydd wedi’u trefnu o flaen llaw.
Gallwch chi gofrestru ar-lein yma. Cofiwch adael iddyn nhw wybod eich bod chi wedi clywed am y Gofrestr gan Ofal Canser Tenovus. Byddwn ni’n derbyn £1 am bob unigolyn, fydd yn helpu i gadw ein gwasanaethau i fynd.
Gwasanaethau Blaenoriaeth gan Ddŵr Cymru
Os ydych chi’n byw yng Nghymru a bod gennych chi neu anwyliad ganser, efallai y byddwch chi’n gymwys i gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Blaenoriaeth Dŵr Cymru. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n gallu eich cyflenwi â dŵr potel os bydd y cyflenwad dŵr i ffwrdd, a darparu cymorth ychwanegol os bydd y cyflenwad i ffwrdd am gyfnod hirach. Dysgwch mwy am sut y gallan nhw helpu yma.
Cysylltwch â’n Tîm Cyngor Buddion
Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu eich cynghori chi ynglŷn â sut y gallwn ni helpu gyda phob mathau o faterion ymarferol os oes gennych chi ganser. Defnyddiwch ein ffurflen Gofyn i’r Cynghorwr Budd-daliadau neu ffoniwch eich Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.