Mae siarad am unrhyw afiechyd yn gallu bod yn anodd, yn enwedig yn y gwaith, ond gall fod yn ffordd bwysig o gael y gefnogaeth rydych â hawl i’w chael.
Ar gyfer gweithwyr ac unigolion
Os ydych chi neu anwyliad wedi cael diagnosis o ganser, efallai y byddwch chi angen cymryd amser o’r gwaith. Bydd gan eich cwmni ei bolisïau ei hun o ran faint o amser y cewch chi ei gymryd, a p’un ai a fyddwch chi’n dal i gael cyflog, ond mae yno gyfreithiau mewn grym i’ch diogelu. Rydych wedi cael eich diogelu gan y gyfraith rhag dioddef triniaeth annheg yn y gwaith, o ganlyniad i ddiagnosis o ganser.
Siaradwch â’ch Rheolwr a’ch tîm adnoddau dynol, os oes gennych chi un, i benderfynu ar y ffordd orau i fynd o’i chwmpas. Yn dibynnu ar eich triniaeth, efallai y byddwch chi angen cymryd amser o’r gwaith.
Mae yno fudd-daliadau a hawliadau ar gael os yw eich incwm yn cael ei effeithio, un ai oherwydd bod gennych chi ganser neu oherwydd eich bod chi’n cymryd amser o’r gwaith i ofalu am anwyliad.
Os ydych chi’n hunangyflogedig fe ddylech chi allu cael cymorth ariannol os nad ydych chi’n gallu gweithio. Yn gyffredinol, nid yw pobl hunangyflogedig yn gallu cael tâl salwch, ond fe allech chi fod yn gymwys i ddechrau hawlio budd-dal cymryd lle incwm. I gael rhagor o gyngor am waith a chanser, cliciwch yma.
Ar gyfer cyflogwyr
Os oes un o’ch gweithwyr wedi cael diagnosis o ganser, yn gofalu am, neu wedi colli anwyliad i ganser, mae’n debygol y bydd angen rhagor o gymorth arnyn nhw, ac o bosib amser o’r gwaith. Rhaid ystyried addasiadau rhesymol i’r rhai hynny wedi’u heffeithio gan ganser.
Mae’n bwysig eich bod chi’n siarad â’ch aelod staff ac yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau eich cwmni mewn perthynas â thâl salwch ac absenoldeb tosturiol.
Mae cynlluniau fel gweithio hyblyg, absenoldeb di-dâl ac amser estynedig o’r gwaith yn gallu helpu i wneud y broses yn haws. I gael rhagor o gyngor ar gyfer cyflogwyr am waith a chanser, cliciwch yma.
Cysylltwch â’n Tîm Cyngor
Defnyddiwch ein ffurflen Gofyn i’r Cynghorwr neu ffoniwch eich Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.