Scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am y Gymraeg
English
Following on from the Maggie’s Open Forum on 30th November, which saw representatives from Maggie’s and the Betsi Cadwaladr University Health Board lay out their plans to have a Maggie’s Centre in North Wales, we would like to invite you to join the next virtual Maggie’s Forum. The open session will take place via Teams on Monday 27th February from 5:30pm to 6:15pm, and will give you an opportunity to hear more about the plans for the new Maggie’s centre at Ysbyty Glan Clwyd and share any thoughts you have on the proposals before the final plans are submitted for approval.
Please email kirsty.thomson@wales.nhs.uk before 3pm on Monday 27th February if you would like to attend this forum. Please include any questions you have, so they can be answered during the online session.
We hope you are able to be part of this opportunity to learn more about the plans for the Maggies Centre and to shape these plans before they are finalised. If you are unable to join this session, please do not worry; we can send you the presentations and the information that is shared after the event.
Welsh
Yn dilyn Fforwm Agored Maggie's ar 30 Tachwedd, lle gwnaeth cynrychiolwyr o Maggie's a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr amlinellu eu cynlluniau i sefydlu Canolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru, hoffem eich gwahodd i ymuno â digwyddiad nesaf Fforwm Maggie's a gaiff ei gynnal yn rhithiol. Caiff y sesiwn agored ei chynnal dros Teams ddydd Llun 27 Chwefror o 5:30pm tan 6:15pm, a bydd yn gyfle i chi glywed mwy am y cynlluniau ar gyfer canolfan Maggie's newydd yn Ysbyty Glan Clwyd ac i rannu unrhyw syniadau sydd gennych am y cynigion cyn i'r cynlluniau terfynol gael eu cyflwyno i'w cymeradwyo.
Anfonwch e-bost i kirsty.thomson@wales.nhs.uk cyn 3pm ddydd Llun 27 Chwefror os hoffech gymryd rhan yn y fforwm hwn. A fyddech cystal â chynnwys unrhyw gwestiynau sydd gennych, fel bod modd eu hateb yn ystod y sesiwn ar-lein.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu bod yn rhan o'r cyfle hwn i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer Canolfan Maggie's ac i lunio'r cynlluniau hyn cyn iddynt gael eu cymeradwyo. Os na allwch gymryd rhan yn y sesiwn hon, peidiwch â phoeni; gallwn anfon y cyflwyniadau a'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu ar ôl y digwyddiad atoch chi.